27.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio)
Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) a 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio), 39 wythnos y flwyddyn.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun, 01 Mehefin 2026
