Rhowch eich meini prawf chwilio isod a dewiswch Chwilio. I chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf niferus y mae eu hangen gan ddefnyddio'r allweddau 'Ctrl' neu 'Shift' ar y bysellfwrdd.
Location: Ysgol Ffederasiwn Blenheim Road a Choed Eva.
Work outline: Sail Amser llawn.
Athro Parhaol - Ysgolion y Ffederasiwn
Mae manylion gofynion y swydd isod. Ble mae'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth gofynnol am y swydd yma wedi eu cynnwys hefyd.
Manylion swydd
Cyflog MPS / UPS
Oriau cytundebol 32.5
Sail Amser llawn
Pecyn Parhaol
Categori/math o swydd Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Ysgol
Dyddiad postio 28/04/2026
Cyfeirnod swydd REQ006242
Atodiadau: Athro Athrawes - Ysgolion y Ffederasiwn.docx, REQ006242 Permanent Teacher - The Federation Schools.docx
Disgrifiad swydd
Hoffech chi weithio yn un o'r sefydliadau dysgu mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru?
Hoffech chi fod yn rhan o gymuned ddysgu lle, rydyn ni'n ymdrechu ym mhopeth a wnawn i:
- Dyfu dysgwyr llwyddiannus, ffyniannus;
- Arwain ein pobl at ragoriaeth; a
- Newid ein cymuned a'n gwlad er gwell?
Ydych chi'n athro brwdfrydig, creadigol ac angerddol sy'n barod i wneud gwahaniaeth? Os felly, byddai ein ffederasiwn wrth eu bodd i glywed gennych.
Rydyn ni'n chwilio am athrawon dosbarth ysgogol ac ysbrydoledig fydd yn meithrin chwilfrydedd ac annibyniaeth a dod â dysgu yn fyw ar draws yr ystod oedran cynradd. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan ymgeiswyr sydd â diddordeb, profiad neu gefndir cryf mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM), a all ysbrydoli creadigrwydd, datrys problemau, ac arloesi trwy brofiadau dysgu diddorol a phwrpasol. Yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo'n gryf i arferion gwrth-hiliol a sicrhau bod ein dwy ysgol yn ennyn amrywiaeth a chynhwysiant yng nghalon ein cymuned. Mae hyn yn rhan ganolog o'n gwaith a'n dysgu, trwy ein gwaith gyda Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) a phrosiect gwrth-hiliaeth cymunedol ein clwstwr ein hunain.
Mae ein Ffederasiwn yn unigryw yng Nghymru. Anelwn i sicrhau'r:
- lefelau cyrhaeddiad uchaf i'n dysgwyr ;
- llesiant a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol uchaf posib i'n cydweithwyr; a'r
- ymgysylltiad mwyaf effeithiol â theuluoedd a'r gymuned ar gyfer ein hysgolion sydd yng nghalon y gymuned.
Rydym yn sefydliad blaengar, lle mae creadigrwydd ac arloesedd, a dysgu uchel ei ansawdd yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM) yn rhan annatod o ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol ac ystyrlon i bob disgybl.
Os yw hon yn her sy'n ennyn cyffro ynoch, ac os ydych chi'n barod i gael eich grymuso i weithio fel aelod allweddol o'n tîm, edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 13 Mai 2026
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Iau 14 Mai 2026
Arsylwi Gwers a Chyfweliadau: Wythnos yn dechrau Dydd Llun 18 Mai 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w cyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod a nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn Arweinydd sy'n Hyderus o ran Anabledd cofrestredig ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.
